Wrap-around Care

Universal Free School Meals

We have had 66 responses so far which is brilliant, thank you!

To get a true picture for September though, we really could do with a few more please.

I appreciate that our current year 6 parents will not need to do this.

If you haven’t yet, here’s a reminder of the link…

https://forms.gle/9j4zYBdm6ckfVaew5

It will literally take up 30 seconds of your time.

Thank you 😊

Universal Primary Free School Meals scheme rolls out to Years 3 to 6

If your child will be starting in years 3 to 6 in September in primary school, you’ll want to read this!

Children in reception classes and years 1 and 2 across Wales are already receiving free school meals thanks to the Welsh Government’s Universal Primary Free School Meals programme, and from September this will be rolled out to all years 3 to 6 pupils in Wrexham.

This is the part of the Welsh Government’s response to the rising cost-of-living pressures on families, tackling child poverty and ensuring no child goes hungry in school.

Don’t miss this opportunity to get a hot nutritious school meal for your child – for free!

Does your child already receive Free School Meals?

If your child currently receives Free School Meals based on your circumstances, you may also be entitled to additional help through the School Essentials Grant, which includes financial support for uniform, sports equipment and devices.

So from September we are urging parents to continue apply for Free School Meals so that your child receives the maximum support that they’re entitled to.

To access this year’s scheme visit the School Essentials Grant page on our website.

If you have previously received the Welsh Government’s school holiday direct payment to help with food costs while your children are out of school, we have received confirmation from Welsh government that this will no longer be available and that the final payment covered May half term 2023.

Has your financial situation changed in the last year?

If your child is not currently receiving Free School Meals, but your circumstances have changed this year, Wrexham might have support available for you. To check if you are eligible for Free School Meals, visit Free school meals | Wrexham County Borough Council. If you are eligible, you may also be able to receive the School Essentials Grant.

Cllr Phil Wynn, Lead Member for Education, said: “If you think you may be eligible for Free School Meals, please visit our website and apply, even if your child qualifies for the new Universal Primary Free School Meals. If your application is successful, you may also be able to access the School Essentials Grant, which is an important part of stopping money getting in the way of children’s education. So, if you think you may be eligible, get in touch with us to support parents and learners through the school year.”

Child starting school? You’ll need a Parent Pay account

For your child to receive a free school meal – Universal Primary Free School Meal or an eligibility-based Free School Meal – you will need an account on the Parent Pay website www.parentpay.com.  Here’s how you get one:

  1. Email schoolmeals@wrexham.gov.uk with your child’s full name, date of birth and name of their school, and ask for a Parent Pay activation code
  2. You will receive an activation code to get your account up and running

If you have any questions about financial help available for your child while they are at school you can contact us at freeschoolmeals@wrexham.gov.uk.

You’ll need to pre-order school meals on Parent Pay too. This really helps your child’s school because it means that teachers don’t have to lose valuable teaching time taking meal orders. It also means your child gets their first choice of meal and helps us reduce waste. Once you are set up on Parent Pay, you’ll be able to book your children’s meals up to two weeks in advance.

Cyflwyno’r Cynllun Cyffredinol Prydau Ysgol am Ddim i Flynyddoedd 3 i 6

Os bydd eich plentyn yn dechrau ym mlynyddoedd 3 i 6 yn yr ysgol gynradd ym mis Medi, bydd gennych ddiddordeb yn hyn!

Mae plant mewn dosbarthiadau derbyn a blynyddoedd 1 a 2 yng Nghymru eisoes yn cael prydau ysgol am ddim diolch i Raglen Gyffredinol Prydau Ysgol am Ddim Llywodraeth Cymru ac o fis Medi, bydd hyn yn cael ei gyflwyno i bob disgybl ym mlynyddoedd 3 i 6 yn Wrecsam.

Mae hyn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i bwysau cynyddol costau byw ar deuluoedd, er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.

Peidiwch â methu’r cyfle hwn i gael pryd ysgol poeth, maethlon i’ch plentyn – am ddim!

Ydi eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim?

Os ydi eich plentyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd yn seiliedig ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch hefyd hawlio cymorth ychwanegol trwy’r Grant Hanfodion Ysgol, sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau. 

Felly, o fis Medi ymlaen rydym yn annog rhieni i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim fel bod eich plentyn yn cael yr holl gymorth y mae ganddo hawl iddo. 

I hawlio’r cynllun eleni, ewch i Grant Hanfodion Ysgol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf?

Os nad yw eich plentyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, ond bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Wrecsam gynnig cymorth i chi.  I wirio a ydych chi’n gymwys am Brydau Ysgol am Ddim, ewch i Prydau Ysgol am Ddim | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Os ydych chi’n gymwys, efallai bod modd i chi dderbyn y Grant Hanfodion Ysgol hefyd.

Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, ewch i’n gwefan i wneud cais, hyd yn oed os yw eich plentyn yn gymwys i gael y Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu cael mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol hefyd, sy’n gam pwysig wrth atal arian rhag rhwystro addysg plant.  Felly, os ydych yn credu eich bod yn gymwys, cysylltwch â ni i gefnogi rhieni a dysgwyr drwy’r flwyddyn ysgol.”

Ydi eich plentyn yn dechrau ysgol? Byddwch angen cyfrif Parent Pay

Er mwyn i’ch plentyn dderbyn pryd ysgol am ddim – boed yn bryd ysgol am ddim cyffredinol neu un ar sail cymhwyster – byddwch angen cyfrif ar wefan Parent Pay www.parentpay.com.  Dyma sut i greu cyfrif:

  1. Anfonwch e-bost at schoolmeals@wrexham.gov.uk gan nodi enw llawn eich plentyn, ei ddyddiad geni ac enw ei ysgol, a gofynnwch am god gweithredu Parent Pay
  2. Byddwch yn derbyn cod gweithredu ar gyfer sefydlu eich cyfrif

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am help ariannol sydd ar gael i’ch plentyn yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, gallwch gysylltu â ni ar freeschoolmeals@wrexham.gov.uk.

Byddwch angen rhag archebu prydau ysgol ar Parent Pay hefyd.  Mae hyn wir yn helpu ysgol eich plentyn oherwydd nad oes raid i athrawon golli amser addysgu gwerthfawr yn cymryd archebion.  Golyga hefyd fod eich plentyn yn cael ei ddewis cyntaf o bryd o fwyd, ac mae’n ein helpu i leihau gwastraff.  Unwaith y byddwch wedi sefydlu cyfrif Parent Pay, gallwch archebu prydau bwyd eich plentyn hyd at bythefnos ymlaen llaw.